Addysg a Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon yng Nghymru
 

 Hafan

English
  

Valid HTML 4.01!

Valid CSS!

 

     
           Glyndŵr University
 

Glyndŵr University
Ddwyrain Cymru
Campws Plas Coch
Heol yr Wyddgrug
Wrecsam
LL11 2AW

Athrofa Addysg Uwch Gogledd Ddwyrain Cymru
 
  
Cyrsiau
""
 

  Cyrsiau Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon Israddedig
  • BA (Anrh.) Addysg Gynradd (3 blynedd)

    Cyfrwng Cymraeg: addysgir opsiwn Cymraeg ar y cwrs BA. Mae cyfle i bob un o’r myfyrwyr ddysgu’r Gymraeg. At hynny, ceir cyrsiau sy’n ymdrin ag addysgu’r Gymraeg fel Ail Iaith.

   Cyrsiau eraill
  • TAR (Rhan Amser) – ar gyfer Addysg Bellach ac Uwch.

   Cyrsiau Addysg Eraill

  • Cymorth Dysgu
  • BA (Anrh) Astudiaethau Plentyndod Cynnar
  • BA (Anrh) Astudiaethau Addysg a Phlentyndod
  • Gs Astudiaethau Plentyndod Cynnar
  • BA (Anrh) Astudiaethau Addysg

I'r Brig  

Proffil Yr Ysgol Addysg
""

Mae gan yr Ysgol staff ymroddedig a phrofiadol sy’n meddu ar gymwysterau da.

Mae gan yr Ysgol ystod eang o gysylltiadau ag athrofâu a chyrff eraill ym Mhrydain ac mewn gwledydd tramor.

Sefydlwyd adran ymchwil yma ers tro.

Mae arolygiadau ac asesiadau annibynnol o gyrsiau wedi tynnu sylw at gryfderau’r Ysgol yn arbennig ym maes Addysgu a Dysgu.

Defnyddir ysgolion partneriaeth yng Nghymru ac yn Lloegr ar gyfer profiad ysgol-seiliedig y myfyrwyr.

I'r Brig  

Yr Athrofa – Proffil
""

Fel un o golegau cysylltiol Prifysgol Cymru, mae NEWI yn cynnig ystod eang o gyrsiau israddedig, ôl-raddedig a sylfaen Prifysgol Cymru.

Gydag oddeutu 5000 o fyfyrwyr, mae’r athrofa yn ddigon bach i fedru cynnig i’w myfyrwyr y gefnogaeth academaidd a phersonol sydd ei hangen arnynt i ddatblygu eu sgiliau, ac eto llwydda i gynnal y cysylltiadau academaidd a phroffesiynol angenrheidiol i sicrhau bod y myfyrwyr yn manteisio i’r eithaf ar eu cymwysterau.

Mae NEWI yn gweithio tuag at ei nod o ddatblygu’n brifysgol o bwys rhyngwladol sydd yn gystadleuol ac yn fyfyriwr-ganolog. Mae Wrecsam yn dref a welodd gryn ddatblygu yn y blynyddoedd diwethaf, ac er ei bod yng nghanol un o ardaloedd prydferthaf Prydain, gellir cyrraedd dinasoedd prysur Lerpwl a Manceinion yn hawdd o fewn awr.

I'r Brig  

Cysylltiadau Allweddol ar gyfer Gwybodaeth a Chyngor
""

Euros Davies, Mynediadau (Addysg)
Ffôn: (01978) 293084
E-bost: e.w.davies@newi.ac.uk

Jan Bagguley, Ysgrifenyddes Mynediadau
E-bost: j.bagguley@newi.ac.uk

Gwefan: www.newi.ac.uk

I'r Brig  

    
 Ymwadiad: Athrofa Addysg Uwch Gogledd-ddwyrain Cymru sy'n gyfrifol am yr wybodaeth ar y dudalen hon.