Cyrsiau

Cyrsiau Ôl-raddedig Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon (TAR)
-
TAR Cynradd Isaf (3-7)
-
TAR Cynradd Uchaf (7-11)
-
TAR Uwchradd 11-16 / 11-18
-
Bioleg, Cemeg, Ffiseg, Gwyddoniaeth*, Mathemateg**, Mathemateg gyda Thechnoleg Gwybodaeth*, Dylunio a Thechnoleg, Technoleg Gwybodaeth, Ieithoedd Tramor Modern, Cymraeg, Saesneg, Hanes, Daearyddiaeth, Celf a Dylunio, Astudiaethau Busnes.
*11-16 mlwydd oed
** Ar gael hefyd trwy’r rhaglen dysgu agored o bell (ODL). Mae hon yn caniatáu i fyfyrwyr astudio gartref, ac eithrio pan fyddant yn mynychu cyrsiau preswyl byrion ac yn ystod profiad ysgol.
Gwella Pwnc ar y Cwrs Addysg a Hyfforddiant Cychwynnol
- Mathemateg: Ar gyfer y myfyrwyr hynny sydd wedi cael eu derbyn ar y cwrs TAR ond sydd am ddiweddaru eu gwybodaeth pwnc, efallai y bydd cwrs paratoi 6 wythnos ar gael. Byddai hyn yn cael ei drafod yn y cyfweliad gydag ymgeiswyr cymwys.
- Cyfrwng Cymraeg: Cynhelir y rhan fwyaf o'r hyfforddiant mewn ysgolion cyfrwng Saesneg, ond gallai fod yn bosibl trefnu hyfforddiant ar gyfer siaradwyr Cymraeg a dwyieithog mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg. Bydd sesiynau ychwanegol ar gael i ddatblygu’r sgiliau Iaith Gymraeg sydd eu hangen ar gyfer addysgu.
- Mae rhai cyrsiau pwnc yn cynnig Cymorth Cyntaf fel cwrs ychwanegol (e.e. Gwyddoniaeth, Daearyddiaeth)
- Nid ydym yn cynnig cyrsiau aseswyr.
Cyrsiau Israddedig Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon gyda Statws Athro Cymwysedig
Cyrsiau Eraill
- TAR/PCET Tystysgrif Ôl-Raddedig mewn Addysg (PCET)
- TAR/PCET Tystysgrif Graddedig Proffesiynol mewn Addysg
- TAR/PCET Tystysgrif mewn Addysg
Nod y rhaglenni hyn yw helpu darlithwyr/tiwtoriaid/athrawon/hyfforddwyr presennol neu yn y dyfodol, yn rhan-amser neu'n llawn amser, mewn Addysg Bellach, Uwch ac i Oedolion/ Addysg Gymunedol i ennill dealltwriaeth o egwyddorion a dulliau dysgu ac addysgu.
- Egwyddorion Addysgu – Lefel 6
Rhaglen ran-amser yw hon a gynlluniwyd i roi "blas" ar addysgu i bobl o wahanol ddisgyblaethau. Nod y rhaglenni hyn yw helpu darlithwyr/tiwtoriaid/athrawon/hyfforddwyr presennol neu yn y dyfodol, yn rhan amser neu'n llawn amser, mewn Addysg Bellach, Uwch ac i Oedolion/ Addysg Gymunedol i ennill dealltwriaeth o egwyddorion a dulliau dysgu ac addysgu.
Cyrsiau Gradd Sylfaen
- Gradd Sylfaen mewn Cefnogaeth Dysgu
Rhaglen tair blynedd rhan-amser yn y gweithle yw hon, a gynlluniwyd ac a gyflwynir gan Ysgol Addysg Abertawe mewn partneriaeth gydag ysgolion lleol. Mae'r rhaglen yn darparu cyfle i gynorthwywyr addysgu gymryd rhan mewn datblygiad proffesiynol.
Cyrsiau Uwch
Cyrsiau Addysg Eraill
Mae Astudiaethau Addysgol yn ystyried ystod eang o faterion addysgol ac mae'n datblygu dealltwriaeth o ddysgu pobl o bob oedran, yn cynnwys dysgu cydol oes, trwy amrywiaeth o gyd-destunau. Bydd y radd hon yn paratoi myfyrwyr drwy roi dealltwriaeth o bolisi, proses a chwricwlwm addysgol iddynt, ynghyd â'r wybodaeth sydd ei hangen gan broffesiynolwyr ym myd addysg. Bydd y materion a gânt eu hastudio yn cynnwys amrywiaeth mewn addysg, creadigrwydd ac ymchwil addysgol. Bydd y rhaglen Astudiaethau Addysgol yn cyfuno astudiaeth academaidd o addysg â pharatoad galwedigaethol ar gyfer ystod o yrfaoedd mewn addysg, gan ddechrau ar hyd llwybr a fydd yn paratoi myfyrwyr ar gyfer addysgu mewn ysgolion. Bydd myfyrwyr sy'n dymuno dod yn athrawon ysgol gynradd yn sicr o gael cyfweliad ar gyfer y rhaglen TAR. Bydd derbyn cynnig am le yn ddibynnol, yn rhannol, ar fodloni'r gofynion mynediad at gyfer y cwrs TAR.
I'r Brig
Paratoi ar gyfer Addysgu

Cwrs "blasu" ar gyfer y rhai sy'n ystyried gyrfa mewn addysgu uwchradd. Mae'r cwrs yn cynnig amserau dechrau a gorffen hyblyg, lleoliad ysgol byr, hyrwyddwr ysgol a thiwtor cefnogi.
Ar ddiwedd y cwrs dylai'r myfyrwyr wybod a ydynt yn addas o ran cymeriad i fod yn athrawon ac a oes yna fylchau yn eu gwybodaeth pwnc.
Y pynciau a gynigir ar hyn o bryd yw:
Mathemateg, Gwyddoniaeth, Ieithoedd Tramor Modern, Dylunio a Thechnoleg, Cymraeg a Saesneg.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â:
Clare Schroder
Tel: 02920 471019
E-bost: c.a.schroder@open.ac.uk
Cynhelir y cwrs ar y cyd gan Prifysgol Aberystwyth, Prifysgol Bangor, Athrofa Prifysgol Cymru Caerdydd, Prifysgol Cymru, Casnewydd, Prifysgol Fetropolitan Abertawe, a Phrifysgol Agored Cymru.
I'r Brig
Proffil Yr Ysgol Addysg

Mae'r Ysgol yn croesawu dros 600 o fyfyrwyr Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon bob blwyddyn ar ei chyrsiau cynradd ac uwchradd.
Yn ystod Arolygiad Llywodraeth diweddar, cafodd yr Ysgol y graddau uchaf.
Mae gan yr ysgol enw da hefyd mewn ymchwil addysgol.
Mae'r Ysgol yn gymuned glòs o fyfyrwyr, darlithwyr ac ymchwilwyr, sy'n rhannu diddordeb mewn sicrhau bod disgyblion yn derbyn rhagoriaeth yn eu haddysg.
I'r Brig
Proffil Prifysgol

Mae Abertawe yn ddinas glan y môr hardd a llewyrchus. Tua'r gorllewin saif Penrhyn Gŵyr, yr ardal gyntaf ym Mhrydain i gael ei dyfarnu'n Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol, ac i'r gogledd mae Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.
Mae'r brifysgol ar gampws, sydd â thua 6,000 o fyfyrwyr, yn darparu cyfleusterau chwaraeon a chymdeithasol rhagorol, yn cynnwys theatr a chanolfan celfyddydau cyfagos. Mae Pwll Nofio Cenedlaethol Cymru yn atyniad poblogaidd bellach.
I'r Brig
Cysylltiadau Allweddol ar gyfer Gwybodaeth a Chyngor

I'r Brig
|