Cyrsiau

Mae’r Ysgol Addysg yn cynnig cyrsiau israddedig ac ôl-raddedig sy’n arwain at Statws Athro
Cymwys.
Os hoffech chi gael eich hyfforddi i ddysgu yn yr ysgol Gynradd, neu i ddysgu
Mathemateg, Gwyddoniaeth, Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu, neu Dylunio a Thechnoleg yn yr ysgol
Uwchradd, mae gennym y cwrs i chi beth bynnag yw’ch cymwysterau.
Cyrsiau Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon Ôl-raddedig gyda Statws Athro Cymwys
Cyrsiau Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon Israddedig gyda Statws Athro Cymwys
Cyrsiau Eraill
Cwrs blwyddyn
llawn-amser, neu ddwy flynedd ran-amser.
Cwrs sy’n galluogi myfyrwyr aeddfed i ennill cymhwyster sy’n cwrdd â gofynion mynediad y cyrsiau gradd HCA uwchradd sy’n rhedeg am ddwy
flynedd.
Mae’r cwrs yn rhedeg am un diwrnod yr wythnos am bymtheg wythnos o fis Chwefror
ymlaen. Dyma gyfle i ddiweddaru cymhwyster dysgu sy’n bodoli eisoes ac i ddarparu ar gyfer dychwelyd i ddysgu mewn ysgol gynradd neu symud o ysgol uwchradd i
gynradd.
Cyrsiau Addysg Eraill
- BA (Anrh) Addysg
Mae tri dyfarniad, yn ôl thema, ar gael:
-
Blynyddoedd Cynnar
-
Addysg
-
Cynhwysiant
(Blwyddyn llawn-amser, neu dair blynedd ran-amser). Mae’r radd yn weddus i’r rhai sydd am weithio gyda phlant a phobl ifanc mewn amrediad o sefyllfaoedd addysgol lle nad oes angen cymhwyster dysgu.
*I'w dilysu
I'r Brig
Paratoi i Ddysgu

Cwrs sy’n rhoi ‘blas’ ar ddysgu i’r rhai sy’n ystyried gyrfa mewn addysg
uwchradd. Mae cyfnodau dechrau a gorffen y cwrs yn hyblyg, ac mae’n cynnwys profiad gwaith byr mewn
ysgol, cysylltiad â hwylusydd ysgolion a chymorth tiwtoriaid.
Ar ddiwedd y cwrs dylai fyfyrwyr wybod os yw eu cymeriad yn addas ar gyfer dysgu ac os oes unrhyw fylchau yn eu gwybodaeth ar bynciau penodol.
Y pynciau cyfredol sydd ar gael yw:
Mathemateg, Gwyddoniaeth, Ieithoedd Modern Tramor, Dylunio a Thechnoleg,
Cymraeg.
Am ragor o wybodaeth cysylltwch
â:
Clare Schroder
Ffôn: 02920 471019
E-bost: c.a.schroder@open.ac.uk
Rhedir y cwrs ar y cyd gan Brifysgol Cymru, Aberystwyth, Prifysgol Cymru, Bangor, Athrofa Prifysgol
Cymru, Caerdydd, Prifysgol Cymru,
Casnewydd, Athrofa Addysg Uwch Abertawe, a’r Brifysgol Agored yng
Nghymru.
I'r Brig
Diwrnodau
Blasu

Mae’r Ysgol Addysg yn cynnig cyfle i ddarpar ymgeiswyr fynychu diwrnodau blasu addysgu
uwchradd. Cynhelir y rhain dair gwaith y flwyddyn, unwaith pob tymor
academaidd. Am ragor o fanylion cysylltwch â
mary.smith3@newport.ac.uk
I'r Brig
Proffil Yr Ysgol Addysg

Mae Campws Caerllion wedi cynnal sefydliad hyfforddi athrawon ers 1914. Dim ond dynion oedd yn cael mynychu’r sefydliad
gwreiddiol, Coleg Hyfforddiant Sir Fynwy, a hynny hyd at 1962 pan agorwyd drysau’r Coleg i
ferched. Mae miloedd o athrawon ledled y byd wedi cael eu hyfforddi gan yr
Ysgol Addysg.
Lleolir yr Ysgol ar diroedd hyfryd Campws Caerllion. Mae yno awyrgylch
cyfeillgar, cyfleusterau da, a theimlad go iawn o gymuned ddiogel a
chefnogol. Mae’r Ysgol yn elwa o ystod o ystafelloedd a chyfleusterau
dysgu, yn cynnwys gweithdy dylunio a thechnoleg, ystafelloedd cyfrifiaduron
newydd, labordai gwyddoniaeth, llyfrgell a chanolfan adnoddau dysgu, a chanolfan chwaraeon modern.
Mae’r Ysgol yn cynnal perthynas gref iawn gyda’r ysgolion sy’n bartneriaid
iddi, ac yn hyfforddi aelodau o staff yr ysgolion fel mentoriaid er mwyn sicrhau bod y myfyrwyr sydd ar brofiad gwaith yn yr ysgolion yn derbyn cymorth
cynhwysfawr.
Mae dysgu yn yrfa heriol, bleserus a boddhaol ac mae ein tiwtoriaid cymwys, yn academaidd a
phroffesiynol, yn darparu addysg a chymorth o’r ansawdd uchaf i’n myfyrwyr er mwyn eu paratoi ar gyfer eu gyrfaoedd yn y
dyfodol.
Er bod yr Ysgol yn gweithredu tu fewn i faes unigryw'r byd addysg a hyfforddiant yng
Nghymru, rydym yn cadw golwg ar, ac yn ymateb i newidiadau yn amgylchedd addysgol y DU a thu
hwnt.
Mae gan yr Ysgol enw rhagorol, ac nid yw ei graddedigion wedi cael trafferth yn dod o hyd i
swyddi.
I'r Brig
Proffil y Brifysgol

Mae Campws Caerllion y Brifysgol yn agos at gyffordd 25 yr M4, 4 milltir o ganol Dinas Casnewydd sydd â chysylltiadau trafnidaeth hwylus i Gaerdydd a
Bryste. Lleolir Caerllion mewn man deniadol ar lan Afon Wysg, ac mae’n adnabyddus am ei hanes
Rhufeinig, gyda’i hamffitheatr, baddonau a gwersylltai Rhufeinig. Mae’r myfyrwyr sy’n astudio yng Nghaerllion yn ei chael yn dref fywiog a
chyfeillgar.
Ceir canolfan chwaraeon newydd ardderchog ar y campws gydag ystod o gyfleusterau modern
(gweler
http://www3.newport.ac.uk/displayPage.aspx?object_id=253&type=PAG), a neuaddau preswyl modern i
fyfyrwyr, sy’n cynnig llety o’r safon uchaf
(gweler http://www3.newport.ac.uk/displayPage.aspx?object_id=640&type=SEC).
I'r Brig
Cysylltiadau Allweddol ar gyfer Gwybodaeth a Chyngor

Canolfan Wybodaeth y Brifysgol:
Ffôn: 01633 432432
E-bost: uic@newport.ac.uk
Gwefan: http://education.newport.ac.uk/itt.html
Gwahoddir ceisiadau oddi wrth bobl sydd â chymwysterau proffesiynol, neu sydd â phrofiad sy’n berthnasol i
ddysgu. Mae’n bosibl achredu profiad blaenorol neu gymhwyster diraddedig.
I'r Brig
|