|
|
Cynhadledd Amrywiaeth 25ain 2006 - Canlyniad >>
Cyflwynaid
Mae’r sefydliadau sy’n hyfforddi athrawon yng Nghymru yn cynnig ystod eang o gyrsiau TAR cynradd ac uwchradd sydd yn arwain at Statws Athro Cymwysedig (SAC).
Mae pob sefydliad yn darparu hyfforddiant a chymwysterau o safon uchel, sydd yn berthnasol ledled gwledydd Prydain a thu hwnt. Mae pob un o’r sefydliadau mewn ardaloedd dymunol, heb fod nepell o rai o olygfeydd godidocaf y wlad.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi cyhoeddi dogfen bolisi yn dwyn y teitl Y Wlad sy’n Dysgu, ac ynddi amlinellir cynlluniau’r Cynulliad o safbwynt addysg a dysgu yng Nghymru ar gyfer y degawd nesaf. Bydd datblygiadau arloesol a chyffrous i’w gweld ym myd addysg yng Nghymru. Wrth hyfforddi i addysgu yng Nghymru, felly, cewch gyfle i fanteisio ar arbenigedd a ddatblygwyd dros nifer o flynyddoedd ac i brofi rhywbeth o’r weledigaeth ar gyfer y dyfodol . . . dechrau delfrydol i yrfa lwyddiannus mewn addysgu, yng Nghymru neu yn
Lloegr.
RHAI PWYNTIAU ALLWEDDOL
- Mae’r ymchwil diweddar
a’i cwblhawyd ar ran yr Asiantaeth Hyfforddi a Datblygu ar gyfer
Ysgolion wedi profi bod ‘athrawon yn cael bodlonrwydd tymor byr a
thymor hir wrth ddatblygu disgyblion, ac yn teimlo bod y gwaith yn
foddhaus, yn gyffrous ac yn amrywiol dros ben. Mae’r ‘si’ sy’n
bodoli o gwmpas yr Ysgol ac yn ystod y rhyngweithiadau gyda
disgyblion a chyd-athrawon yn ychwanegu at y teimlad o fwynhad.’
Darllenwch fwy trwy gyrchu
www.tda.gov.uk/joblab.
- Mae’r cyflogau
cychwynnol o £19,161 yn cymharu’n dda gyda phroffesiynau eraill, ac
mae cyfleoedd ardderchog ar gyfer cyflawni cynnydd cyflym yn eich
gyrfa a mwynhau’r gwobrau ariannol sy’n deillio o’r cynnydd hwn.
- Nid oes rhaid talu
ffioedd hyfforddiant ‘ychwanegol’ amrywiol yng Nghymru ar gyfer
mynediad yn 2006.
- Bydd pob myfyriwr israddedig o Gymru yn medru hawlio grantiau dysgu. Defnyddir prawf moddion i asesu anghenion unigolion, a’r swm mwyaf a delir yw £2,700 y flwyddyn. At hynny, bydd myfyrwyr cymwys ar gyrsiau hyfforddiant athrawon uwchradd israddedig yn derbyn grantiau o rwng £600 a £1,000 y flwyddyn.
- Mae grantiau hyfforddi
gwerth hyd at £7,200 ar gael i fyfyrwyr cynradd ac uwchradd cymwys.
- Mae grant addysgu
ychwanegol o £2,500 ar gael i raddedigion cymwys sydd wedi cael eu
hyfforddi mewn pynciau blaenoriaeth uwchradd. Y pynciau hynny yw
Mathemateg, Gwyddoniaeth, Ieithoedd Modern, Dylunio a Thechnoleg,
Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu, Saesneg (gan gynnwys Drama)
Cymraeg fel ail iaith, Cerddoriaeth ac Astudiaethau Crefyddol. O fis Medi 2005 ymlaen telir £5,0 00 i'r rheini sy'n hyfforddi i ddysgu Mathemateg a Gwyddoniaeth ac sy'n cwrdd â'r telerau. Telir hwn ar ddechrau'r ail flwyddyn o ddysgu'r
pwnc.
- Ni ddisgwylir ar hyn o bryd i hyfforddeion yng Nghymru (ac eithrio hyfforddeion y Brifysgol Agored) basio’r Profion Sgiliau Llythrennedd, Rhifedd a TGCh, cyn sicrhau Statws Athro Cymwysedig. Cydnabyddir y SAC a ddyfernir yng Nghymru yn Lloegr a thu hwnt.
- Nid yw’n hanfodol medru siarad Cymraeg ar gyfer y rhan fwyaf o gyrsiau yng Nghymru. Gellwch ddewis dilyn cyrsiau naill ai trwy gyfrwng y Gymraeg neu’r Saesneg. Mae Prifysgol Cymru, Bangor a Choleg y Drindod, Caerfyrddin yn cynnig cynlluniau gradd (Cynradd) trwy gyfrwng y Gymraeg a’r
Saesneg.
- Mae cryn alw am siaradwyr y Gymraeg i hyfforddi i addysgu’r Gymraeg a phynciau eraill trwy gyfrwng y Gymraeg.
- Mae £1,200 ar gael i
fyfyrwyr cymwys sy'n cwblhau cyrsiau uwchradd cymwys trwy gyfrwng y
Gymraeg ond sydd angen rhywfaint o hyfforddiant ychwanegol yn y
Gymraeg.
- Ceir y cyrsiau canlynol hyn yng Nghymru hefyd: Rhaglen Athrawon Graddedig, Rhaglen Athrawon Cofrestredig, Cynlluniau Dysgu Agored a Chynlluniau Dysgu-o-Bell, cynlluniau i gyfoethogi gwybodaethaeth bynciol cyn dilyn cwrs hyfforddi.
- Cynigir cyrsiau ‘Paratoi i Ddysgu’ mewn Mathemateg, Ieithoedd Modern, Gwyddoniaeth, Dylunio a Thechnoleg, a Chymraeg. Maent yn rhoi cyfle i bobl weld a yw gyrfa mewn dysgu yn addas iddynt hwy.
- Am ragor o wybodaeth am hyfforddiant cychwynnol i athrawon yng Nghymru, cysylltwch â’r Llinell Gwybodaeth i Athrawon (0845 6000 992 i siaradwyr Cymraeg a 0845 6000 992 i siaradwyr Saesneg), edrychwch ar wefannau’r sefydliadau unigol ac ar Ddysgu Cymru, gwefan Hyfforddiant ac Addysg Llywodraeth Cenedlaethol
Cymru, http://www.dysgu.cymru.gov.uk
- Mae Cyngor Cyllido Addysg Uwch yng Nghymru yn darparu Adrodiad su’n cynnwys gwybodaeth am berffomiad sefydliadau hyfforddi athrawon yng Nghymru. Gellir ei weld ar
www.hefcw.ac.uk
- Sefydlwyd blwyddyn statudol o anwythiad yng Nghymru ym Medi 2003. Mae’r flwyddyn hon yn rhan o bolisi cyffrous o gefnogaeth a datblygiad proffesiynol i athrawon.
- Dysgwch Eto.Cwrs ar gyfer athrawon trwyddedig (cynradd ac uwchradd) sydd yn awyddus I ddechrau dysgu mewn ysgol uwchradd neu I ddychwelyd I ddysgu mewn uwchradd.Cyniga’r cwrs gyfle I ddiweddaru sgiliau a gwybodaeth bynciol, ac I fagu hyder. Cynigir lleoliad byr mewn ysgol a chefnogaeth gan diwtor.
|
|
|