|
|
Croeso
Mae Cymru’n le ardderchog i astudio, ac rydym eisiau denu pobl o’r safon uchaf sydd eisiau cael eu hyfforddi i fod yn athrawon neu i weithio mewn meysydd addysg cysylltiedig.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi cyhoeddi dogfen bolisi yn dwyn y teitl “Y Wlad sy’n Dysgu”, ac ynddi amlinellir cynlluniau’r Cynulliad o safbwynt addysg a dysgu yng Nghymru ar gyfer y degawd nesaf. Bydd datblygiadau arloesol a chyffrous i’w gweld ym myd addysg yng Nghymru. Wrth hyfforddi i addysgu yng Nghymru, felly, cewch gyfle i fanteisio ar arbenigedd a ddatblygwyd dros nifer o flynyddoedd ac i brofi rhywbeth o’r weledigaeth ar gyfer y dyfodol; dechrau delfrydol i yrfa lwyddiannus mewn addysgu. Wrth i’r gweithlu Addysg newid, mae cyfleoedd gyrfaol newydd yn datblygu ar gyfer y rhai sydd â gradd addysg.
Mae sefydliadau Addysg Uwch yng Nghymru yn cynnig ystod eang o gyrsiau hyfforddi athrawon cynradd ac uwchradd sy’n arwain at Statws Athro Cymwys (SAC) ac amrywiaeth o raddau addysg. Mae pob sefydliad yn cynnig hyfforddiant o’r safon uchaf a chydnabyddir y cymwysterau a’u henillwyd ledled y DU a thu hwnt.
RHAI PWYNTIAU ALLWEDDOL
- Pa mor gynhyrfus yw’ch swydd chi? I wybod mwy cliciwch yma.
- Sut mae eich swydd yn gwneud i chi deimlo? I wybod mwy cliciwch yma.
- Mae’r ymchwil diweddar a’i cwblhawyd ar ran yr Asiantaeth Hyfforddi a Datblygu ar gyfer Ysgolion wedi profi bod ‘athrawon yn cael bodlonrwydd tymor byr a thymor hir wrth ddatblygu disgyblion, ac yn teimlo bod y gwaith yn foddhaus, yn gyffrous ac yn amrywiol dros ben. Mae’r ‘si’ sy’n bodoli o gwmpas yr ysgol ac yn ystod y rhyngweithiadau gyda disgyblion a chyd-athrawon yn ychwanegu at y teimlad o fwynhad.’ Darllenwch fwy trwy gyrchu www.tda.gov.uk/joblab.
- Mae’r cyflogau cychwynnol yn cymharu’n dda iawn gyda phroffesiynau eraill, ac mae cyfleoedd ardderchog ar gyfer cyflawni cynnydd cyflym yn eich gyrfa a mwynhau’r gwobrau ariannol sy’n deillio o’r cynnydd hwn.
- Mae ystod eang o gymorth ariannol ar gael, dim ots pa gwrs rydych yn ceisio amdano, yn israddedig neu’n ôl-raddedig.
- Nid yw’r gallu i siarad Cymraeg yn hanfodol ar gyfer cyrsiau yng Nghymru. Gallwch ddewis i ddilyn rhai cyrsiau trwy gyfrwng y Gymraeg neu’r Saesneg.
|
|
- Mae cryn alw am siaradwyr Cymraeg yn bodoli, i hyfforddi i addysgu’r Gymraeg ac i addysgu pynciau eraill trwy gyfrwng y Gymraeg.
- Ni ddisgwylir i hyfforddeion ar gyrsiau HCA yng Nghymru basio’r Profion Sgiliau mewn Llythrennedd, Rhifedd a TGCh, cyn sicrhau Statws Athro Cymwys (ond gwelwch dudalen y Brifysgol Agored). Cydnabyddir y SAC a’i dyfernir yng Nghymru gan weddill y DU a thu hwnt.
- Mae’r Flwyddyn Statudol o Anwythiad ar gyfer athrawon yn rhan annatod o bolisi cyffrous o gefnogaeth a datblygiad proffesiynol i athrawon.
- Am ragor o wybodaeth am hyfforddiant i athrawon yng Nghymru, cysylltwch â’r Llinell Gwybodaeth i Athrawon (0845 6000 992 i siaradwyr Cymraeg a 0845 6000 991 i siaradwyr Saesneg), edrychwch ar wefannau’r sefydliadau unigol ac ar Ddysgu Cymru, gwefan Hyfforddiant ac Addysg Llywodraeth Cenedlaethol Cymru, www.learning.wales.gov.uk.
- Am fwy o fanylion ar gyrsiau addysg a chysylltiedig yng Nghymru, cliciwch ar dudalennau gwe’r sefydliadau unigol neu cliciwch yma.
- Ceir y cyrsiau canlynol yng Nghymru hefyd: Rhaglen Athrawon Graddedig, Rhaglen Athrawon Cofrestredig, Cynlluniau Agored a Chynlluniau Dysgu o Bell a chynlluniau i Gyfoethogi Gwybodaeth Bynciol cyn dilyn Cwrs Hyfforddi.
- Mae diwrnodau blasu, cyrsiau byr, a chyrsiau Paratoi i Addysgu ar gael ac maent yn rhoi cyfle i bobl weld a yw gyrfa mewn addysgu yn addas iddynt hwy. Cliciwch ar dudalennau gwe’r sefydliadau unigol.
- Mae cyrsiau Dysgwch Eto ar gyfer athrawon cynradd ac uwchradd cymwys yn cynnig cyfle i ddiweddaru sgiliau a gwybodaeth bynciol, ac i fagu hyder. Cliciwch ar dudalennau gwe’r sefydliadau unigol.
|
|
|
|