Addysg a Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon yng Nghymru
 

 Hafan

English
  

Valid HTML 4.01!

Valid CSS!

 

     
           COLEG Y DRINDOD – CAERFYRDDIN
 
Y Gyfadran Addysg a Hyfforddiant
Coleg y Drindod
Heol y Coleg
Caerfyrddin
Sir Gaerfyrddin
SA31 3EP
Coleg y Drindod, Caerfyrddin
 
  
Cyrsiau
""
 

  Cyrsiau Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon Ôl-raddedig (1 flwyddyn)

  Gellir dilyn pob cwrs naill ai drwy gyfrwng y Gymraeg neu’r Saesneg.

  • TAR Cynradd (3-11)

  • TAR Uwchradd (11-18) Addysg Grefyddol

   Cyrsiau Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon Israddedig (3 blynedd)

   Gellir dilyn y ddau gwrs BA (Addysg Gynradd) SAC naill ai drwy gyfrwng y Gymraeg neu’r Saesneg.

  • BA (Addysg Gynradd) SAC
  • BA (Addysg Gynradd) SAC (Addysg Ddwyieithog)

    Nodiadau: Caiff pob un o’r myfyrwyr gyfle i arbenigo yn un o’r pynciau canlynol: Addysg Gorfforol, Addysg Grefyddol, Celf, Cerddoriaeth, Cymraeg, Cymraeg Ail Iaith, Daearyddiaeth, Gwyddoniaeth, Hanes, Mathemateg, Saesneg, Technoleg, Technoleg Gwybodaeth.
  • BA Cymraeg (Uwchradd) SAC

    Lluniwyd y rhaglen hon mewn ymateb i’r galw cynyddol am athrawon Cymraeg a Chymraeg Ail Iaith yn y sector uwchradd yng Nghymru. Er mai gradd yn y Gymraeg ydyw, bydd y pwyslais ar yr ochr addysgol a’r modd yr addysgir y Gymraeg yn llwyddiannus yn y sector uwchradd heddiw. Rhydd y rhaglen gyfle i chi ennill gradd yn y Gymraeg a Statws Athro Cymwysedig o fewn tair blynedd.

   Cyrsiau Eraill

  • Gradd Sylfaen:
    • Gwaith Aml-Asiantaeth (I’w ddilysu)
    • Astudiaethau Addysg I Gynorthwywyr Dysgu
  • Tystysgrif Addysg Uwch:
    • Rheoli Meithrinfa
    • Ymarferion Cymraeg a Dwyiethog mewn Blynyddoedd Cynnar

   Cyrsiau Addysg Eraill

  • BA (Anrh) Astudiaethau Addysg Anrhydedd Unigol neu Gyfunol
  • BA (Anrh) Addysg Blynyddoedd Cynnar
  • BA (Anrh) Addysg, Blynyddoedd Cynnar neu Cynhwysiad
  • BA (Anrh) Gwaith Ami-Asianaeth

I'r Brig  

Y Gyfadran Addysg a Hyfforddiant
""

Mae Coleg y Drindod, Caerfyrddin yn un o’r sefydliadau mwyaf profiadol yng Nghymru o safbwynt Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon. Caiff y Gyfadran Addysg a Hyfforddiant ei chydnabod fel canolfan genedlaethol ar gyfer datblygu a hyfforddi athrawon dwyieithog a dyma brif ddarparwr athrawon cynradd cyfrwng Cymraeg De Cymru. Cadarnhaodd adroddiad Estyn ar Safonau ac Ansawdd mewn Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon bod y Coleg yn parhau i ddarparu cyrsiau hyfforddi athrawon sydd gyda’r gorau yng Nghymru.

Mae ystadegau cyflogaeth graddedigion yn galonogol dros ben a dangosant fod bron pob un o’r hyfforddeion cynradd ac uwchradd wedi sicrhau swydd addysgu o fewn chwe mis i orffen eu hyfforddiant.

Gweithia’r Coleg mewn partneriaeth a thros 250 o ysgolion cynradd a 45 o ysgolion uwchradd yn Ne Cymru.

Cyfranna’r Drindod at agenda Cynulliad Cenedlaethol Cymru ym maes addysg y blynyddoedd cynnar, dwyieithrwydd a datblygiad proffesiynol parhaus. Mae’r Coleg wedi’i ymrwymo i gefnogi datblygiad proffesiynol hyfforddeion ac athrawon cymwysedig, a chynigir ystod o gyrsiau mewn Addysg Anghenion Arbennig, Addysg y Blynyddoedd Cynnar, Rheolaeth, Addysg Amgylcheddol ac Astudiaethau Addysgu Proffesiynol.

I'r Brig  

Coleg y Drindod – Proffil
""

Mae Coleg y Drindod wedi’i leoli yng Nghaerfyrddin, canolfan fasnachol cymuned fawr a ffyniannus. Fel un o colegau o Fewn Prifysgol Cymru, cynigir gan Goleg y Drindod raglenni gradd israddedig ac ôl-raddedig y gellir eu dilyn yn llawn neu’n rhan amser.

Mae’r Coleg yn adnabyddus am ei naws gyfeillgar a chroesawgar ac ymfalchïa hefyd yn y profiadau byw a deinamig a gaiff myfyrwyr yn ystod eu cyfnod yno. Mae’r Coleg wedi’i ymrwymo i ddarparu addysg uwch sy’n berthnasol i anghenion y cymunedau a wasanaethir ganddo. Mae ganddo rôl allweddol fel prifysgol gymunedol sy’n cefnogi dwyieithrwydd a datblygiad cymunedol cynaliadwy.

I'r Brig  

Cysylltiadau Allweddol ar gyfer Gwybodaeth a Chyngor
""

Gwefan: www.drindod.ac.uk

I'r Brig  

    
 Ymwadiad: Coleg y Drindod Caerfyrddin sy'n gyfrifol am yr wybodaeth ar y dudalen hon.