Cyrsiau

Cyrsiau Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon Ôl-raddedig (1 flwyddyn) (TAR)
Gellir dilyn pob cwrs naill ai drwy gyfrwng y Gymraeg neu’r
Saesneg.
-
TAR Cynradd Isaf (3-7)
-
TAR Cynradd Uchaf (7-11)
-
TAR Uwchradd 11-18 ac 11-16
-
Addysg Gorfforol, Addysg Grefyddol, Almaeneg, Bioleg, Celf, Cemeg, Cerddoriaeth, Cymraeg, Ffiseg, Ffrangeg, Gweithgareddau Awyr Agored, Mathemateg, Saesneg, Technoleg Gwybodaeth.
Nodiadau: Gall darpar athrawon ddewis un o’r pynciau a restrir uchod fel eu prif bwnc, ond gallant hefyd, mewn rhai achosion, hyfforddi i addysgu ail bwnc os dymunant. Fel arall, gallant ddewis dilyn cwrs Gweithgareddau Awyr Agored ar y cyd fel prif
bwnc.
Cyrsiau Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon Israddedig (3
blynedd)
Gellir dilyn pob cwrs naill ai trwy gyfrwng y Gymraeg neu’r
Saesneg.
- BA. (Anrh.) Cynradd Isaf (3-7)
- BA. (Anrh.) Cynradd Uchaf (7-11)
- BSc (Anrh.) yn arwain at SAC mewn
Dylunio a Thechnoleg Uwchradd
Nodiadau: Bydd myfyrwyr BSc yn derbyn grant Lleoliad blynyddol o £1000 tuag at gost eu Lleoliad ysgol.
Astudiaeth Achos Hyfforddeion:
http://www.bangor.ac.uk/studentlife/studentprofiles/index.php
Cyrsiau Eraill
- Cwrs Ymestyn Gwybodaeth am y Gymraeg fel Pwnc
Cynhelir y cwrs chwech wythnos hwn cyn dechrau’r cwrs TAR
Uwchradd. Fe’i bwriedir ar gyfer y myfyrwyr hynny y tybir bod angen gwella’u gwybodaeth am y pwnc er mwyn cwrdd â gofynion y cwrs TAR Uwchradd
Cymraeg.
Cyrsiau Addysg Eraill
- BA (Anrhydedd neu Cyd-anrhydedd) Astudiaethau Plentyndod
- FdA Astudiaethau Plentyndod Cynnar a Chymorth Dysgu
- Dylunio a Thechnoleg BSc(Hons) (yn canolbwyntio ar Ddylunio a Chynhyrchu Nwyddau)
- Diploma MA/MEd Addysg
- PhD /MPhil Addysg
I'r Brig
Diwrnodau
Blasu

Cynhelir diwrnodau blasu yn ystod y flwyddyn mewn cydweithrediad ag ysgolion y Bartneriaeth Uwchradd er mwyn cyflwyno darpar fyfyrwyr i fyd addysgu.
I'r Brig
Proffil Yr Ysgol Addysg

Lleolir yr Ysgol ar safle’r Normal lle ceir llyfrgell addysg sy’n meddu ar ystod eang o adnoddau addysgu dwyieithog cynradd ac uwchradd, cyfleusterau chwaraeon, neuaddau preswyl ar gyfer israddedigion a bar.
Mae Partneriaethau Hyfforddiant Athrawon Gogledd Cymru wedi’u sefydlu ers tro a cheir ysgolion Partneriaeth ar draws Gogledd Cymru sydd yn darparu amgylchedd dysgu cynhaliol ar gyfer darpar athrawon. Mae gan bob un o’r ysgolion uwchradd gyfleusterau cynadledda e-bost fel y gall darpar athrawon gadw mewn cysylltiad â’i gilydd a’u tiwtoriaid, a chefnogi ei gilydd pan fyddant ar Brofiad Ysgol.
Canmolwyd y cyrsiau yn dilyn yr Arolygiad diwethaf.
Mae gan yr Ysgol staff dwyieithog profiadol sy’n meddu ar gymwysterau da ac sydd yn ymwneud ag ymchwil, datblygiad proffesiynol a datblygu’r cwricwlwm.
Gall darpar athrawon sydd yn dilyn unrhyw gwrs gael cymorth ariannol pellach gan yr Ysgol i helpu gyda chostau sy’n deillio o Brofiad Ysgol.
Bydd yr Ysgol yn denu oddeutu 280 o ôl-raddedigion a 140 o israddedigion bob blwyddyn.
I'r Brig
Proffil y Brifysgol

Sefydlwyd Prifysgol Bangor ym 1884, a rhoddwyd pwyslais ar gynnal rhagoriaeth o’r cychwyn. Wedi’i lleoli rhwng y môr a mynyddoedd geirwon Eryri, rhaid bod Bangor yn un o’r mannau astudio mwyaf deniadol yn y DU. Ymfalchïwn yn yr awyrgylch cyfeillgar a gofalgar a geir yma.
Mae gan ddinas Bangor bwll nofio, theatr, sinema, oriel gelf, Amgueddfa Hynafiaethau Cymreig yn ogystal â dwy ganolfan siopa modern. Undeb y Myfyrwyr yw canolbwynt y bywyd nos ond ceir hefyd amrywiaeth dda o dafarnau, bwytai a bariau caffi ym Mangor.
Mae’n hawdd cyrraedd Bangor, a cheir heolydd da hyd at yr M6; dim ond dwy awr o daith sydd rhwng Manceinion ac yma, a dim ond pedair awr o Lundain. Dim ond 99 munud yw’r daith ar y fferi gyflym iawn o Ddulyn i Gaergybi!
Mae cost byw ym Mangor yn gymharol isel a gellir gwarantu lle i bob un o israddedigion y flwyddyn gyntaf mewn neuadd breswyl sydd yn agos at y brifysgol.
I'r Brig
Cysylltiadau Allweddol ar gyfer Gwybodaeth a Chyngor

TAR Cynradd a BA
Ffôn: 01248 383012
e-bost: eds068@bangor.ac.uk
BSc Uwchradd
Ffôn: 01248- 383013
e-bost: eds00d@bangor.ac.uk
TAR Uwchradd
Ffôn: 01248 382933
e-bost: eds035@bangor.ac.uk
BA (Anrhydedd neu Cyd-anrhydedd) Astudiaethau Plentyndod
Ffôn: 01248 383081
E-bost: eds008@bangor.ac.uk
FdA Astudiaethau Plentyndod Cynnar a Chymorth Dysgu
Ffôn: 01248 383065
E-bost: eds092@bangor.ac.uk
Dylunio a Thechnoleg BSc(Hons) (yn canolbwyntio ar Ddylunio a Chynhyrchu Nwyddau)
Ffôn: 01248 388227/383013
E-bost: eds087@bangor.ac.uk
Diploma MA/MEd Addysg
Ffôn: 01248 382932
E-bost: eds056@bangor.ac.uk
PhD /MPhil Addysg
Ffôn: 01248 382932
E-bost: eds056@bangor.ac.uk
Gwefan:
www.bangor.ac.uk/addysg
I'r Brig
|