Initial Teacher Education & Training in Wales Logo
 
English  

  

Valid HTML 4.01!

Valid CSS!

 


Cefnogaeth Ariannol ac Anogaethau ar gyfer Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon

Mae'r wybodaeth ar y dudalen hon yn berthnasol i'r flwyddyn academaidd 08/09. Cyhoeddir cadarnhad o ariannu ar gyfer 2009 yn fuan.

Mae yna nifer o gronfeydd arian a chymorth ar gael i chi fel athro/athrawes dan hyfforddiant tra’ch bod yn cwblhau eich cwrs. Mae’r hyn y byddwch yn gymwys i’w dderbyn yn dibynnu ar y math o gwrs Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon (HCA) y byddwch yn ei ddilyn, lle yr ydych fel arfer yn byw, y pwnc yr ydych yn cael eich hyfforddi i’w addysgu a lle yn union yr ydych yn hyfforddi, yn ogystal â’ch amgylchiadau personol. Gwnaethpwyd pob ymdrech i sicrhau cywirdeb y crynodeb canlynol - am gadarnhad o’ch hawliau cliciwch ar y dolennau canlynol neu cysylltwch â’ch Awdurdod Leol (ALl).

Ceir manylion pellach ar gymorth ariannol yn ‘A Guide to Financial Support for Higher Education Students’. Dylai myfyrwyr sy’n byw yng Nghymru ffonio Cyllid Myfyrwyr Cymru ar 0845 602 8845 am eich copi rhad ac am ddim, neu gysylltu â’ch ALl. Dylai myfyrwyr eraill ffonio 0800 7319133 neu ffôn destun 0800 3238988 er mwyn hawlio eich copi sy’n rhad ac am ddim neu cysylltwch â’ch ALl. 

 

 

Taith undydd i Techniquest ar gyfer athrawon mathemateg a gwyddoniaeth dan hyfforddiant.

Taith maes i gastell Brynbuga.

Ffioedd Hyfforddi

  • Ar gyfer 2008-09 yng Nghymru, mae yna ffi hyblyg o hyd at £3,145 y gallwch ohirio ei dalu.
     
  • Cewch wneud cais am fenthyciad o hyd at £3,145 i dalu am y swm llawn y mae eich prifysgol neu goleg yn codi arnoch chi am eich cwrs a bydd yr arian yn cael ei dalu'n uniongyrchol i'r brifysgol neu goleg i dalu am gostau eich ffioedd.
     
  • Os ydych fel arfer yn byw yng Nghymru neu o wlad yn yr UE sydd ddim yn rhan o’r DU ac yn astudio mewn sefydliad addysg uwch (SAU) yng Nghymru, byddwch fel arfer yn gallu hawlio grant ffioedd o hyd at £1,890 a does dim rhaid ei ad-dalu. Mae’r cymorth yma ar gael beth bynnag fo incwm y teulu, ac fe’i delir yn uniongyrchol i’ch sefydliad astudio.
       
  • Os ydych fel arfer yn byw yng Nghymru neu o wlad yn yr UE sydd ddim yn rhan o’r DU ac yn astudio mewn SAU yng Nghymru, rydych yn gallu hawlio grant ffioedd hyfforddi ac fe gewch fenthyg mwy hyd at gostau ychwanegol y ffioedd (£1,255). Telir hwn yn uniongyrchol i’ch sefydliad astudio.
       
  • Ni fydd rhaid talu’r ffioedd hyfforddi o flaen llaw; ychwanegir y ffioedd hyfforddi at eich benthyciad myfyriwr. Ad-delir y benthyciad hwn dros gyfnod o amser ar raddfa sy’n gysylltiedig â’ch incwm unwaith y byddwch yn ennill o leiaf £15,000 y flwyddyn.
       
  • Os ydych fel arfer yn byw yn Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon ac yn astudio mewn SAU yng Nghymru, gallwch wneud cais am fenthyciad myfyriwr hyd at y ffi a'i codir gan y sefydliad. Mae hwn ar gael beth bynnag fo incwm y teulu, ac fe’i delir yn uniongyrchol i’r Brifysgol.

Israddedig

  • Mae benthyciad myfyriwr ar gyfer cynhaliaeth (costau byw) ar gael a fydd yn dibynnu ar incwm y teulu a gall hefyd ddibynnu ar unrhyw grantiau rydych wedi derbyn. Fel arfer telir eich benthyciad mewn 3 rhandaliad ar gychwyn pob tymor, yn syth i’ch cyfrif banc. Uchafswm y benthyciad sydd ar gael ar gyfer 2008-09 yw £4,625. Cysylltwch â’ch Awdurdod Lleol i wneud cais am fenthyciad myfyriwr.
     
  • Os ydych fel arfer yn byw yng Nghymru, neu o wlad yn yr UE sydd ddim yn rhan o’r DU ond sydd â chysylltiad go iawn i'r DU, gallwch wneud cais am Grant Ddysgu’r Cynulliad o hyd at £2,835 i helpu i gwrdd â chostau byw cyffredinol. Bydd y swm a gewch yn dibynnu ar incwm y teulu a bydd yn cael ei amcangyfrif gan eich Awdurdod Lleol. Telir y grant mewn 3 rhandaliad, un ar gychwyn pob tymor, yr un fath â’ch benthyciad myfyriwr. Ceir mwy o wybodaeth o www.cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk
     
  • Os ydych fel arfer yn byw yn Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon mae cyfle i chi wneud cais am grant o hyd at £2,835 i helpu i gwrdd â chostau byw cyffredinol. Ceir mwy o wybodaeth o:
    www.saas.gov.uk
    www.studentfinanceni.co.uk
    www.studentfinancedirect.co.uk
     
  • Ad-delir benthyciadau cynhaliaeth a ffioedd hyfforddiant yn unol â’ch incwm ar ôl i chi gychwyn ennill o leiaf £15,000 y flwyddyn.
     
  • Cronfeydd Amgylchiadau Ariannol Annisgwyl (ar gael o sefydliadau unigol), i ddarparu cymorth dewisol os ydych yn profi trafferthion ariannol.
     
  • Bwrsari Cenedlaethol Cymreig. Mae’r bwrsari hwn o £310 yn dibynnu ar incwm y teulu ac ar gael i fyfyrwyr Cymreig a di-Gymreig sy'n gorfod talu'r ffioedd hyblyg newydd.
     
  • Mae bwrsariaethau ychwanegol ar gael o sefydliadau unigol. Cysylltwch â’r sefydliadau am fwy o wybodaeth.

Grant Lleoliad i Israddedigion Uwchradd

Mae’r arian ar gyfer grant lleoliad i israddedigion uwchradd ar gael i ddarparwyr HCA gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru a’i nod yw eich cynorthwyo chi tra’ch bod ar eich cyfnod profiad ysgol. Nid oes rhaid i chi geisio am y grant hwn.

  • Dyfernir grant o o leiaf £1,000 yn flynyddol i’r myfyrwyr israddedig hynny sy’n hyfforddi i addysgu un o’r pynciau uwchradd lle mae prinder athrawon. Y pynciau hynny yw Mathemateg, Gwyddoniaeth, Ieithoedd Modern, Dylunio a Thechnoleg, Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu, Cymraeg, Cerddoriaeth ac Astudiaethau Crefyddol.
     
  • Dyfernir grant o £600 yn flynyddol i bob myfyriwr/aig israddedig sy'n hyfforddi i ddysgu mewn pwnc uwchradd lle nad oes prinder athrawon (Drama).
       
  • Telir y grant mewn dau randaliad gan y darparydd HCA a bydd darparwyr unigol yn gallu rhoi mwy o wybodaeth i chi ar sut a phryd y byddwch yn derbyn y taliadau. Peidiwch â chysylltu'n uniongyrchol gyda'r Cyngor Cyllido.

Ôl-Raddedig

Mae’n bosibl bod myfyrwyr sy’n byw yng Nghymru (a myfyrwyr y DU a’r UE hefyd) ac sydd ar gyrsiau HCA ôl-raddedig yng Nghymru yn gymwys i dderbyn y grantiau anogaeth canlynol ar gyfer hyfforddi athrawon:

  • £7,200 os ydych chi'n hyfforddi mewn pwnc uwchradd lle mae prinder athrawon. Mae’r pynciau hynny yn cynnwys Mathemateg, Gwyddoniaeth, Ieithoedd Modern, Dylunio a Thechnoleg, Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu, Cymraeg, Cerddoriaeth ac Astudiaethau Crefyddol.
     
  • £4,200 os ydych chi'n hyfforddi mewn unrhyw bwnc uwchradd arall.
     
  • £2,200 os ydych chi’n hyfforddi mewn lefel cynradd.

Mae’r grant yn rhan o becyn o anogaethau hyfforddiant cychwynnol athrawon (HCA) yng Nghymru yn ystod 2008-09 i sicrhau bod myfyrwyr Cymru yn elwa o gymorth ariannol cymaradwy (anogaethau yn ogystal ag ariannu ffioedd hyfforddi) â’r rheiny yn Lloegr.

  • Gall ffioedd hyfforddi i fyfyrwyr HCA yng Nghymru a Lloegr yn 2008-09 achosi cyfanswm ychwanegol o £3,145 ar gyfer pob myfyriwr. Ond, yng Nghymru, mae grant heb brawf moddion, ni ellir ei ad-dalu, o hyd at £1,890 yn cael ei gynnig i bob myfyriwr sy’n byw ac yn astudio yng Nghymru. Fel canlyniad, mae’r grant hyfforddi o £7,200 sydd ar gael i’r rheini sy’n cyflawni cwrs TAR mewn pwnc uwchradd lle mae prinder athrawon yng Nghymru yn gymaradwy â’r bwrsari o £9,000 yn Lloegr; mae’r grant hyfforddi o £4,200 yng Nghymru yn gymaradwy â’r bwrsari o £6,000 yn Lloegr; ac mae'r grant hyfforddi o £2,200 yng Nghymru yn gymaradwy â'r bwrsari £4,000 yn Lloegr.
     
  • Ni fydd rhaid cyflawni prawf moddion ar gyfer y £1,255 cychwynnol o Grant Ddysgu’r Cynulliad ar gyfer myfyrwyr TAR cartref sy’n astudio yng Nghymru yn 2008-09 (os ydych chi'n astudio am 10 wythnos neu fwy; £625 os ydych chi'n astudio rhwng 6 a 10 wythnos). Felly, yn Lloegr, bydd elfen o’r grant cynhaliaeth o £1,260, a hynny heb gyflawni prawf moddion, ar gael i fyfyrwyr TAR sy’n byw ac yn astudio yn Lloegr.
     
  • Benthyciad myfyrwyr ar gyfer cynhaliaeth (costau byw) sy’n dibynnu ar brawf moddion. Cysylltwch â’ch ALl.
       
  • Telir Grant Addysgu trethadwy ychwanegol o £5,000 i’r rheiny a’u hyfforddwyd mewn Mathemateg a Gwyddoniaeth ac sy’n cwrdd â gofynion penodol, gan gynnwys cwblhau eu blwyddyn Sefydlu yng Nghymru neu Loegr yn y pwnc a'i hyfforddwyd ynddi.
       
  • Telir Grant Addysgu trethadwy ychwanegol o £2,500 i’r rheiny a’u hyfforddwyd mewn pynciau eraill lle mae prinder (Ieithoedd Modern, Dylunio a Thechnoleg, Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu, Cymraeg, Cerddoriaeth ac Astudiaethau Crefyddol) ac sy’n cwrdd â gofynion penodol, gan gynnwys cwblhau eu blwyddyn Sefydlu yng Nghymru neu Loegr yn y pwnc a'i hyfforddwyd ynddi.
     
  • Am fwy o fanylion cyrchwch www.tda.gov.uk
       
  • Mae Anogaeth Cyfrwng Cymraeg Ychwanegol o £1,500 (£1,800 i'r rhai sydd ar gyrsiau mathemateg a gwyddoniaeth) ar gael i fyfyrwyr sy’n cyflawni eu cwrs uwchradd ôl-raddedig trwy gyfrwng y Gymraeg. Anelir yr anogaeth hon at fyfyrwyr sydd ar gyrsiau cymwys ac sydd angen cymorth ychwanegol i fagu hyder yn eu gallu i addysgu’n effeithiol trwy gyfrwng y Gymraeg.

Rhaglen Ddysgu i Raddedigion

  • Mae myfyrwyr sy’n cychwyn y Rhaglen Ddysgu i Raddedigion yn 2008-09 yn derbyn cyflog gan yr ysgolion yn ystod y cyfnod hyfforddi, gan ddefnyddio’r raddfa gyflogau ar gyfer athrawon anghymwys. Am fwy o fanylion cyrchwch: www.teachernet.gov.uk/docbank/index.cfm?.id=8305 a chliciwch ar ‘Teacher’s Pay’.
     
  • Yng Nghymru, gall ysgolion gwladol sy’n cynnal myfyriwr ar y Rhaglen Ddysgu i Raddedigion dderbyn grant o £14,400 tuag at gost cyflog y myfyriwr a grant ychwanegol o hyd at £4,400 i dalu am gostau hyfforddi. Dewisir pa lefydd i’w hariannu bob blwyddyn yn ôl y pynciau uwchradd sy’n dangos prinder. Am fwy o fanylion a ffurflenni cais cliciwch yma.

Cefnogaeth Ariannol Ychwanegol i Fyfyrwyr Anabl

Mae’r Lwfansau Myfyrwyr Anabl (LMA) yn helpu myfyrwyr gyda’r costau ychwanegol y byddant yn eu hwynebu wrth ddilyn eu cwrs o ganlyniad i’w hanabledd. Mae canllaw Cyllid Myfyrwyr Cymru, 'Bridging the Gap', ar gael drwy ffonio 0800 7319133, neu ffôn destun 0800 3288988 neu cliciwch yma. Mae canllaw’r DfES, ‘Bridging the Gap’ ar gael drwy ffonio 0800 7319133, neu ffôn destun 0800 3288988 neu cliciwch yma.

Eich Cyflog Cychwynnol

  • Unwaith y byddwch wedi cwblhau eich hyfforddiant ac wedi ennill statws athro cymwys (SAC), gallwch ddisgwyl cychwyn fel athro newydd gymhwyso (ANG) yng Nghymru a Lloegr ar £20,133 y flwyddyn; £24,168 os byddwch yn gweithio yng nghanol Llundain (graddau 1 Medi 2007).
     
  • Mae’r cyflog yma yn sicrhau bod addysgu yn un o’r gyrfaoedd mwyaf gwobrwyol a diogel o ran cyflog, gan gymharu’n ffafriol gyda sectorau eraill.

Myfyrwyr Rhan-amser

Ffioedd Hyfforddi

Gall y rhain amrywio rhwng sefydliadau.

Gallwch wneud cais am:

  • Grant ffioedd os ydych yn astudio 50% neu fwy o gwrs llawn-amser cyfwerth. Gall hwn amrywio rhwng £620 a £930 yn dibynnu ar y nifer oriau rydych yn astudio. Cysylltwch â'ch Awdurdod Lleol i wneud cais.
     
  • Cymorth gyda chostau sy'n gysylltiedig â'ch cwrs hyd at £1,050. Cysylltwch â'ch Awdurdod Lleol am fanylion.
  • Y Cynllun Ildio Ffioedd. Efallai eich bod yn gymwys os ydych yn erbyn, er enghraifft, cymorth incwm, lwfans ceisio gwaith, credyd treth gwaith, budd-dal tai, budd-dal treth cyngor neu fudd-dal analluogrwydd/anabledd. Cysylltwch â'r sefydliad lle hoffech chi astudio am fwy o wybodaeth.

Myfyrwyr y Brifysgol Agored

  • Yn 2008-09, mae myfyrwyr ar gyrsiau HCA hyblyg yng Nghymru yn syrthio o dan yr un trefniadau cyllid myfyrwyr a'i darperir ar gyfer y rhai sydd ar gyrsiau HCA traddodiadol. Cysylltwch â hwy'n uniongyrchol ar 01908 653411, neu ebostiwch reg-fees@open.ac.uk am fwy o fanylion.
     
  • Yn 2008-09 bydd myfyrwyr sy'n cwblhau darpariaeth HCA hyblyg trwy gyfrwng Y Brifysgol Agored yng Nghymru yn gallu cyrchu'r un cymorth ffioedd a myfyrwyr HCA traddodiadol. Cysylltwch â Chyllid Myfyrwyr Cymru a'ch Awdurdod Lleol yn y dulliau arferol.


 | Ymwadiad | Hygyrchedd |