Initial Teacher Education & Training in Wales Logo
 
English  

  

Valid HTML 4.01!

Valid CSS!

 


RhAG

Lleoedd GTP a ariennir

Rydym wedi derbyn galwad cryf ar gyfer lleoedd GTP a ariennir am 2008-09. Mae’r ceisiadau a gyflwynwyd erbyn y dyddiad cau o 16 Fai 2008 yn cael i’w asesu gan ymgynghorwyr arbenigol y Llywodraeth Cenedlaethol Cymru ar hyn o bryd. Ni fydd unrhyw leoedd GTP a ariannir ychwanegol ar gyfer y flwyddyn academaidd 2008-09. Gall ysgolion parhau i geisio am leoedd heb gyllid. Bydd cyhoeddiad ar gyfer lleoedd GTP a ariannir ar gyfer 2009-10 rhwng y misoedd Chwefror a Mawrth 2009 ar a safle we yma.

Y RHAGLEN ATHRAWON GRADDEDIG (GTP)

Mae'r Rhaglen Athrawon Graddedig yn ddull sy’n seiliedig ar gyflogaeth o hyfforddi fel athro yng Nghymru sy’n golygu ei bod yn ddull o gymhwyso fel athro wrth weithio mewn ysgol. Bydd hyfforddeion yn dilyn rhaglen unigol a luniwyd fel y gallant gyrraedd Safonau’r Statws Athro Cymwysedig.
Mae'n bosib y bydd yn addas ar gyfer y rheiny sy'n methu â dilyn cwrs hyfforddiant cychwynnol athrawon neu sydd angen parhau i ennill cyflog wrth hyfforddi.

Yn ogystal â bodloni'r holl ofynion mynediad ar gyfer rhaglen hyfforddiant cychwynnol athrawon, rhaid i’r ymgeiswyr ar gyfer y Rhaglen Athrawon Graddedig feddu ar radd gyntaf neu gymhwyster cyfatebol mewn pwnc addas, sef pwnc sy'n cael ei addysgu mewn ysgolion. Fel arfer, mae'r rhaglen yn para blwyddyn lawn-amser ond gall hyfforddeion sydd â phrofiad blaenorol addas gwblhau'r rhaglen mewn cyfnod byrrach (y cyfnod byrraf yw 3 mis llawnamser). Gall ysgolion a gynhelir sy'n cyflogi hyfforddai graddedig dderbyn grant o hyd at £14,400 tuag at gyflog yr hyfforddai. Hefyd, gall y Corff Argymell sy'n cynorthwyo/mentora ac yn hyfforddi'r ymgeisydd dderbyn grant hyfforddi o hyd at £4,400. Yr ysgol yw'r Corff Argymell fel arfer ond gall fod yn ddarparwr hyfforddiant cychwynnol athrawon, awdurdod addysg lleol neu unrhyw gorff arall a all fodloni gofynion Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Ar gyfer 2008/09, mae oddeutu 40 o leoedd ar gael ar y Rhaglen Athrawon Graddedig ar gyfer y categorïau blaenoriaeth, sef gwyddoniaeth, mathemateg, TGCh, dylunio a thechnoleg, Cymraeg, cerddoriaeth, addysg grefyddol ac ieithoedd tramor modern mewn ysgolion uwchradd. Nid yw Saesneg (gan gynnwys drama) yn bwnc blaenoriaeth ar gyfer 2008-09. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau am leoedd a ariennir oedd 16 Mai 2008.

Hoffai Llywodraeth Cynulliad Cymru weld portffolio cytbwys o leoedd wedi’u hariannu ar draws yr holl sectorau uwchradd yng Nghymru ac yn arbennig byddai’n croesawu ceisiadau gan ysgolion yn y Gogledd, ysgolion cyfrwng Cymraeg ac ym mhwnc y Gymraeg. Er mwyn helpu i sicrhau’r cytbwysedd hwn, dim ond uchafswm o 3 o geisiadau y bydd hawl gan ysgolion eu gwneud ar gyfer lleoedd wedi’u hariannu yn 2008-09.

Nid yw'r Rhaglen Athrawon Graddedig ar gael mewn ysgolion cynradd. Y rheswm am hyn yw bod Llywodraeth Cynulliad Cymru yn cydnabod nad oes prinder athrawon cynradd yng Nghymru. Os ydych chi’n athro/athrawes cynradd sydd wedi cymhwyso’n llawn ac wedi ennill cymhwyster dysgu y tu allan i ardal yr UE/AEE, ac yr hoffech drafod yr opsiynau yng Nghymru ar gyfer achredu athrawon a hyfforddwyd dramor, cysylltwch â’r Gangen Hyfforddi Ymarferwyr yn Llywodraeth Cynulliad Cymru (manylion wrth droed y dudalen hon).

Yn achos ceisiadau yn 2008-09 bydd y cynllun ar gael ar gyfer ysgolion annibynnol ar yr amod eu bod yn gwneud cais drwy ddarparwyr achrededig Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon. Bydd darparwyr Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon sy’n dewis cynnal y rhaglenni hyn yn adennill yr holl gostau gan yr ysgolion annibynnol sy’n cymryd rhan. Nid oes grantiau ar gael ar gyfer lleoedd a ddyfernir mewn ysgolion annibynnol.

Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn croesawu ceisiadau gan grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol megis lleiafrifoedd ethnig â'r rheiny sydd ag anableddau.

I ymuno â'r Rhaglen Athrawon Graddedig, mae'n rhaid i’r ymgeisydd ddod o hyd i ysgol uwchradd yng Nghymru sy'n barod i'w cynnal drwy gydol y rhaglen. I gynorthwyo hyfforddeion i ddod o hyd i swydd, mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi paratoi taflen o Gwestiynau Cyffredin ar ddulliau sy’n Seiliedig ar Gyflogaeth o gael hyfforddiant fel athro . Mae adran ar 'Swyddi Addysgu Gwag yng Nghymru' ar ddiwedd y ddogfen. Mae'r Corff Argymell yn cyflwyno'r cais i Lywodraeth Cynulliad Cymru ar ran yr hyfforddai.

Ar ddiwedd y rhaglen hyfforddi, mae'r ymgeisydd yn cael ei asesu yn erbyn y safonau Statws Athro Cymwysedig (SAC). Cliciwch ar y dolennau isod i gyrchu Safonau Statws Athro Cymwysedig 2006 a Dod yn Athro Cymwysedig: Llawlyfr Canllawiau – Cylchlythyr 41/2006. Bydd asesydd allanol yn ymweld â'r ysgol am hyd at ddeuddydd, yn asesu ac yn gwneud argymhelliad o ran a yw'r ymgeisydd wedi bodloni'r safonau gofynnol ai peidio. Os yw'r asesiad yn llwyddiannus, mae'r Corff Argymell yn gwneud argymhelliad i Gyngor Addysgu Cyffredinol Cymru y dylai'r hyfforddai fod yn athro cymwysedig. Bydd SAC yn cael ei roi i'r ymgeisydd ond ni fydd yn derbyn cymhwyster ychwanegol e.e. TAR.

Gallwch glicio ar y cyswllt isod i lawrlwytho copi o'r ffurflen gais sy'n cynnwys yr holl fanylion am y grantiau a nifer o leoedd cyllid am 2008-09. Nodwch y dylai’r ysgol/darparwr Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon lenwi’r ffurflen. Dylech ddarllen y dogfennau Cwestiynau Cyffredin a'r cylchlythyr swyddogol trwy'r cysylltiadau isod.

*Bydd cylchlythyr diwygiedig ar gael yng ngwanwyn 2008. Ni fydd y newidiadau hyn i’r cylchlythyr yn effeithio ar y ceisiadau ar gyfer rhaglenni GTP 2007/08.

RTP

Nodwch nad yw’r Rhaglen Athrawon Cofrestredig ar gael yng Nghymru bellach.

Os ydych wedi darllen y dogfennau uchod ac yn awyddus i gael mwy o wybodaeth cysylltwch â’r Is-adran Hyfforddi Ymarferwyr, Llywodraeth Cynulliad Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.

 | Ymwadiad | Hygyrchedd |