|
Cyrsiau

Cyrsiau Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon Ôl-raddedig (TAR)
-
TAR Cynradd Isaf (3-7)
-
TAR Cynradd Uchaf (7-11)
-
TAR Uwchradd 11-16 / 11-18:
Bioleg, Cemeg, Cymraeg, Daearyddiaeth, Drama, Ffiseg, Hanes, Ieithoedd Tramor Modern (Ffrangeg, Almaeneg, Sbaeneg), Saesneg.
I'r Brig
Dysgwch Eto

Cwrs ar gyfer athrawon trwyddedig (cynradd ac uwchradd) sydd yn awyddus I ddechrau dysgu mewn ysgol uwchradd neu I ddychwelyd I ddysgu mewn uwchradd.
Cyniga’r cwrs gyfle I ddiweddaru sgiliau a gwybodaeth bynciol, ac I fagu hyder. Cynigir lleoliad byr mewn ysgol a chefnogaeth gan diwtor.
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:
Trevor Scott
Ffôn: 02920 262770 or 02920 471019
E-bost: J.T.Scott@open.ac.uk
Mae hwn yn gwrs a drefnir ar y cyd gan Prifysgol Aberystwyth a’r Brifysgol Agored yng Nghymru.
Gellir dilyn cyrsiau naill ai trwy gyfrwng y Gymraeg neu’r Saesneg.
I'r Brig
Paratoi i Ddysgu

Cwrs blasu ar gyfer y sawl sy’n ystyried gyrfa fel athro ysgol uwchradd.
Cyniga’r cwrs amserau hyblig ar gyfer dechrau a gorffen, lleoliad byr mewn ysgol, hyrwddwr yn yr ysgol a chefnogaeth gan diwtor.
Ar ddiwedd y cwrs dylai’r rhai sydd wedi cymryd rhan wybod a ydynt yn addas o ran cymeriad I fod yn athrawon ac os oes bylchau yn eu gwybodaeth am eu pwnc.
Ar hyn o bryd cynigir y pynciau canlynol:
Mathemateg, Gwyddoniaeth, Ieithoedd Modern, Dylunio a Thechnoleg, Cymraeg.
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:
Clare Schroder
Ffôn: 02920 471019
E-bost: c.a.schroder@open.ac.uk
Trefnir y cwrs ar y cyd gan Prifysgol Aberystwyth, Prifysgol Bangor, Athrofa Prifysgol Cymru Caerdydd, Prifysgol Cymru Casnewydd, Prifysgol Fetropolitan Abertawe, a’r Brifysgol Agored yng
Nghymru.
I'r Brig
Proffil
Yr Ysgol Addysg

Hyfforddir 250 o
raddedigion yn flynyddol gan y cyrsiau TAR cynradd ac uwchradd.
Gellir cael profiad addysgu mewn ysgolion lleol neu mewn rhannau eraill o
Gymru, mewn ysgolion bach neu fawr mewn ardaloedd gwledig neu drefol.
Mae’r Brifisgol yn croesawu ymgeiswyr aeddfed. Ceir meithrinfa, clybiau ar
ôl ysgol a chynlluniau chwarae yn ystod gwyliau.
Yn ôl adroddiad diweddar gan Arolygwyr ei Mawrhydi, darperir hyfforddiant o
safon uchel.
I'r Brig
Proffil
y Brifysgol

Ceir croeso cynnes yn Aberystwyth i fwy na 7,500 o fyfyrwyr o dros 90 o wledydd. Oherwydd hyn, mae gan y brifysgol a’r dref naws gosmopolitaidd iawn. Nid yw Aberystwyth yn bell o Barc Cenedlaethol Eryri a Pharc Cenedlaethol Sir Benfro, unig barc cenedlaethol arfordirol Prydain.
Mae gan y Brifysgol gyfleusterau chwaraeon awyr agored a than do rhagorol.
Canolfan y Celfyddydau yw man cyfarfod mwyaf y celfyddydau yng Nghymru.
Am fod y Brifysgol, yr Athrofa Glaswelltiroedd ac Ymchwil Amgylcheddol a Llyfrgell Genedlaethol Cymru wedi’u lleoli yma, ceir cymysgedd iach o’r hen a’r
newydd.
I'r Brig
Cysylltiadau Allweddol ar gyfer Gwybodaeth a Chyngor

TAR Cynradd:
Eirwen Lewis Ffôn: 01970 622104
e-bost: dysgu@aber.ac.uk
TAR Uwchradd:
Carolyn Gittins Ffôn: 01970 622105
e-bost: dysgu@aber.ac.uk
Gwefan:http://www.aber.ac.uk/sell/
I'r Brig
|