|
Fel athro neu athrawes
Oeddech chi’n gwybod bod athro neu athrawes sydd newydd gymhwyso yng Nghymru yn gallu ennill lleiafswm o £20,627 (o fis Medi 2007)*, ond gallai gychwyn ar gyflog uwch yn dibynnu ar brofiad blaenorol?
Mae grym enillol athrawon yng Nghymru, o athrawon sydd newydd gymhwyso i statws prif athrawon, yn llawer uwch nac yr ydych yn ei ddychmygu ac yn cymharu’n dda gyda galwedigaethau eraill i raddedigion.
Cynnydd cyflog
|
|

|
Mae’r alwedigaeth yn cynnig cyfleoedd cynnar ardderchog i chi symud ymlaen yn gyflym. Yn dibynnu ar berfformiad, gall athrawon newydd godi’n awtomatig i fyny’r raddfa daliadau bob blwyddyn a gall athro neu athrawes sydd newydd gymhwyso yng Nghymru, ac sy’n cychwyn ar waelod y raddfa gyflogau ac yn datblygu’n dda, ddisgwyl i fod yn ennill £30,627* y flwyddyn ar ôl 5 mlynedd o addysgu.
Gallwch ychwanegu at hyn un ai drwy dderbyn cyfrifoldebau dysgu ac addysgu ychwanegol, trwy dderbyn rôl arweinyddiaeth fel prif neu ddirprwy brif athro neu athrawes, neu dim ond trwy berfformio’n dda iawn fel athro neu athrawes dosbarth.
Gall y rhai sydd eisiau aros yn yr ystafell dosbarth wrth ddatblygu eu gyrfaoedd ennill hyd at £54,417*, tra gall arweinyddion ysgolion (prif athrawon, dirprwy brif athrawon a phrif athrawon cynorthwyol) ennill cyflogau ardderchog sy’n gysylltiedig â maint a phroffil yr ysgol. Er enghraifft, gall prif athro neu athrawes newydd mewn ysgol Cynradd fychan yng Nghymru ennill £40,494*, tra gall brifathro neu brifathrawes brofiadol mewn ysgol Uwchradd mawr gyda chweched dosbarth ennill £100,424*.
Byddwch yn synnu ar ba mor foddhaus y gall gyrfa addysgu fod. Gyda chyflogau cychwynnol sydd gystal â’r hyn a delir gan nifer o alwedigaethau eraill, gall eich profiad a’ch perfformiad eich gweld chi’n cyflawni cynnydd cyflym, gan fwynhau’r buddion ariannol sy’n cyd-fynd a’r cynnydd.
I gael gwybod rhagor am y raddfa daliadau i athrawon cliciwch yma
* Dyfynnir cyflogau mis Medi 2008 ac maent yn newid bob blwyddyn
Gyda gradd addysg (neu gysylltiedig)
Gallwch gynnig am nifer o swyddi mewn ysgolion neu du hwnt gyda gradd addysg (neu gysylltiedig). Er enghraifft, cyflogau nodweddiadol hyd at:
- Cydlynydd Flying Start £26,000
- Swyddog Datblygu Chwarae Cymru £26,187
- Swyddog Datblygu Cymorth £20,000
- Swyddog Cyswllt â Theuluoedd £23,000
- Nyrs Meithrinfa Rheoli Ymddygiad £18,000
- Gweithiwr/aig Ieuenctid Mewn Ysgolion £20,000
- Gweithiwr/aig Blynyddoedd Cynnar £19,161 - £28,005
- Cynghorydd Gyrfaoedd £25,000
I ddarganfod rhagor o yrfaoedd a chyflogau defnyddiwch y dolennau canlynol:
|